Ein Hanes | Our History
Media
Images
Text
Ein Hanes/Our History is a collection of memories and memorabilia that offers visitors a glimpse into the story of the Twin Towns. It’s located in Fishguard Square, occupying the premises of an old shop two doors up from the Town Hall and Last Invasion Tapestry gallery.
Ein Hanes was established in 2016 on the initiative of local people with support from Pembrokeshire County Council. It’s organised and run entirely by volunteers many of whom have long memories and wide knowledge of the area. Others are incomers who are interested in local history and are keen to share it with visitors.
Ein Hanes contains a wealth of historical material in the form of maps, photographs, newspapers, books, images and objects of interest, from prehistory to living memory: much of this has been shared or donated by local people. You’re welcome to wander round, browse, take photographs or ask questions – we’ll do our best to provide answers. We can also give advice on where to go, how to reach particular places or find the most photogenic views. Some visitors have queries about local ancestors and, although these are best directed to the County Archives, we may be able to suggest contacts and connections. (Our sister project, the Hanes Abergwaun website, is another mine of information, easily accessible online.)
Topics featured at Ein Hanes include: the prehistory of the area, the development of the twin towns from fishing harbour to international port, the French Invasion of 1797, the coming of the railway in 1899, the age of the Cunard liners, the first flight from Britain to Ireland in 1912, local events in both World Wars, the film locations used for Moby Dick and Under Milk Wood, and more recent history. Eye-catching window displays employ local items and art work to illustrate traditional rural and maritime life.
Ein Hanes is open 5 days a week from March to October. There’s no entry charge: financially it relies upon donations, the sale of cards and booklets, and generous terms for its rented premises. During the winter months we offer a series of talks on historical subjects and there’s a Facebook page that shares news and information. Moves are being made to progress to museum status in a new location – that’s for the future. Meanwhile every visitor helps to pave the way: we welcome your interest.
Mae Ein Hanes yn gasgliad o atgofion a phethau cofiadwy sy’n cynnig cipolwg i ymwelwyr o stori’r Ddwy Dref. Fe’i lleolir yn Sgwâr Abergwaun, mewn hen siop sydd ddau ddrws i fyny o Neuadd y Dref ac oriel Tapestri yr Ymosodiad Olaf.
Sefydlwyd Ein Hanes yn 2016 ar gais pobl leol gyda chymorth Cyngor Sir Penfro. Caiff ei drefnu a’i redeg yn llwyr gan wirfoddolwyr, y mae gan nifer ohonynt hen atgofion a gwybodaeth eang am yr ardal. Mae eraill yn bobl sydd wedi symud i’r ardal ac y mae ganddynt ddiddordeb mewn hanes lleol, ac maent yn awyddus i’w rannu gydag ymwelwyr.
Mae Ein Hanes yn cynnwys cyfoeth o ddeunydd hanesyddol ar ffurf mapiau, ffotograffau, papurau newydd, llyfrau, delweddau a gwrthrychau o ddiddordeb, o gyfnod cynhanes i’r cyfnod sydd o fewn cof pobl sy’n fyw heddiw: rhannwyd neu roddwyd cryn dipyn o hwn gan bobl leol. Mae croeso i chi grwydro o gwmpas, pori trwy’r deunydd, tynnu lluniau neu holi cwestiynau – byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig atebion i chi. Gallwn gynnig cyngor hefyd ynghylch ble i fynd, sut i gyrraedd mannau penodol neu sicrhau’r golygfeydd mwyaf ffotogenig. Mae gan rai ymwelwyr ymholiadau am gyndeidiau lleol ac er ei bod yn well troi at Archifau’r Sir gydag ymholiadau o’r fath, efallai y byddwn yn gallu awgrymu cysylltiadau. (Mae ein prosiect cysylltiedig, gwefan Hanes Abergwaun, yn adnodd arall sy’n llawn gwybodaeth, ac y mae’n hawdd troi ato ar-lein).
Mae pynciau o fewn Ein Hanes yn cynnwys: cynhanes yr ardal, datblygiad y ddwy dref o fod yn harbwr pysgota i fod yn borthladd rhyngwladol, Ymosodiad y Ffrancod ym 1797, dyfodiad y rheilffordd ym 1899, oes llongau mawrion Cunard, y daith gyntaf mewn awyren rhwng Prydain ac Iwerddon ym 1912, digwyddiadau lleol yn ystod y ddau Ryfel Byd, y lleoliadau ffilm a ddefnyddiwyd ar gyfer Moby Dick ac Under Milk Wood, a hanes mwy diweddar. Mae arddangosiadau ffenestr deniadol yn defnyddio eitemau lleol a gwaith celf i ddangos bywyd morol a gwledig traddodiadol.
Mae Ein Hanes ar agor 5 diwrnod yr wythnos rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Ni chodir tâl mynediad: mae’n dibynnu ar roddion, gwerthu cardiau a llyfrynnau, ac amodau hael ar gyfer y safle y mae’n ei rentu. Dros fisoedd y gaeaf, rydym yn cynnig cyfres o anerchiadau am faterion hanesyddol a cheir tudalen Facebook sy’n rhannu newyddion a gwybodaeth. Mae camau yn cael eu cymryd i sicrhau statws amgueddfa mewn lleoliad newydd – rhywbeth ar gyfer y dyfodol. Yn y cyfamser, mae pob ymwelydd yn helpu i baratoi’r ffordd: rydym yn croesawu eich diddordeb.