Ivybridge Guesthouse | Gwesty’r Ivybridge

Family-run accommodation just five minutes from Fishguard ferry port.

This family-run guesthouse in coastal Goodwick offers a range of accommodation options for all kinds of travellers to the beautiful Pembrokeshire coastal region. | Mae'r gwesty teuluol hwn ym mhentref glan môr Wdig yn cynnig amrywiaeth o opsiynau o ran llety i bob math o deithiwr yn ardal arfordirol hardd Sir Benfro.

Images

Nestled in an idyllic spot in the coastal village of Goodwick, Ivybridge Guesthouse is an ideal base from which to explore the Pembrokeshire coast. Owners Mark and Jan offer exquisite hospitality and a range of rooms to suit all needs, with accommodation suitable for families, walkers on the Pembrokeshire Coastal Path, cyclist tourists, solo business travellers, small groups and ferry passengers. This family-run guesthouse is the ideal location to overnight while passing through, or to base yourself while spending time in the beautiful Pembrokeshire region.

Ivybridge Guesthouse offers 14 rooms, which include self-catering options, family spaces and self-contained flats, as well as a spacious enclosed garden furnished with seating areas and barbecue facilities for guest use. It offers breakfast, excellent Wifi, heated cloths rails and laundry facilities, and ferry pickups and drop-offs can be arranged. Mark and Jan are experienced hospitality experts, with 20 years of 5-star hospitality management experience in the UK and Asia, so you are assured of excellent, warm service, whatever your needs as a guest.

Ivybridge Guesthouse is conveniently located just 15 minutes walk from the seafront, via a wooded walkway leading under the historic ‘ivy bridge’, over which the train ran ferrying stone to the seafront in the early 20th century. Ivybridge Guesthouse takes its name from this historic bridge, and brings its own special magic to the site. You can’t miss the distinctive ‘Helter Skelter’, salvaged by Mark from the scrap-heap during seafront renovations – turn left and you’ll find Ivybridge Guesthouse waiting to welcome you!

For more information, and to book, visit https://ivybridgeguesthouse.co.uk/.

Mae gan Westy’r Ivybridge lecyn delfrydol ym mhentref glan môr Wdig, ac mae’n ganolfan ddelfrydol ar gyfer crwydro glannau Sir Benfro. Mae'r perchnogion Mark a Jan yn cynnig croeso bendigedig ac amrywiaeth o ystafelloedd i ateb pob angen, gyda llety addas i deuluoedd, cerddwyr ar Lwybr Arfordir Sir Benfro, twristiaid ar gefn beic, teithwyr busnes unigol, grwpiau bach a theithwyr fferi. Y gwesty teuluol hwn yw'r lleoliad delfrydol i aros dros nos wrth fynd drwyddo, neu i’w ddefnyddio’n ganolfan wrth dreulio amser yn ardal hardd Sir Benfro.

Mae Gwesty’r Ivybridge yn cynnig 14 o ystafelloedd, sy'n cynnwys opsiynau hunanarlwyo, mannau teuluol a fflatiau hunangynhwysol, yn ogystal â gardd gaeedig eang wedi'i dodrefnu gyda mannau eistedd a chyfleusterau barbeciw i'r gwesteion eu defnyddio. Mae'n cynnig brecwast, WiFi rhagorol, cesig dillad cynnes a chyfleusterau golchi dillad, ac mae modd trefnu lifft yn ôl ac ymlaen i’r fferi. Mae Mark a Jan yn arbenigwyr profiadol mewn lletygarwch, gydag 20 mlynedd o brofiad yn rheoli llety 5 seren yn y Deyrnas Unedig ac Asia, felly rydych chi'n siŵr o gael gwasanaeth rhagorol, cynnes, beth bynnag fo'ch anghenion fel gwestai.

Mae Gwesty’r Ivybridge wedi'i leoli'n gyfleus dim ond 15 munud ar droed o lan y môr, ar hyd llwybr coediog sy'n arwain o dan y 'bont iorwg' hanesyddol, lle roedd y trên yn rhedeg i gario cerrig i lan y môr yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Mae Gwesty’r Ivybridge wedi’i enwi ar ôl y bont hanesyddol hon, sy’n dod â'i hud arbennig ei hun i'r safle. Allwch chi ddim methu’r Llithren Ffair a achubodd Mark o'r domen sgrap yn ystod gwaith adnewyddu ar lan y môr – trowch i'r chwith ac fe welwch chi Westy’r Ivybridge yn aros i'ch croesawu!

Map

Ivybridge Guest House, Drim Mill, Dyffryn, Goodwick SA64 0JT, United Kingdom