Red Onion Garden Cafe | Caffi Gardd y Red Onion
Exceptional seasonal produce overlooking Fishguard Bay
Media
Images
Text
Entering the Red Onion Garden Café, the personal touch is immediately evident – from delicious homemade cakes lining the counter to a blackboard outlining the food miles for the produce on the menu, everything in this gem of a café is done with care. Run by Rhianna Chilton on the grounds of a former garden centre owned by her parents, the Red Onion Garden Café embodies the values of a family-run, environmentally-conscious establishment with gourmet skill to boot.
The café opened in May 2021, following Rhianna’s return from her time living in New Zealand. While in New Zealand, Rhianna developed her passion for sustainable living and food production, and has infused her business with this love. Red Onion Garden Café has gone from strength to strength, offering breakfast, lunch, treats and drinks throughout the week (check website for current opening hours). The majority of fresh produce is homegrown on site, in the large polytunnels behind the café, where you can wander to see your salad growin. You can even sit and eat in one of the converted polytunnels, surrounded by fruit, vegetables, plants and, if you’re lucky, a wandering chicken!
Rhianna sources as much of the café’s ingredients locally in Fishguard and surrounds, including fresh eggs, milk and meat all coming from local producers. This sustainable ethos extends to composting food waste, solar-thermal panelling for hot water, and even offering discounted accommodation in the eco-friendly campsite next door at Glasfryn Farm, run by Rhianna’s brother!
In addition to serving delicious locally-sourced meals in the café, Red Onion Garden Café also runs different events to entertain and entice. The ‘Curry Series’, run in November 2022 and March 2023, was a roaring success – offering a different curry each Friday night for dine-in or takeaway. Other popular events include Mother’s Day Afternoon Tea, Mexican and Morrocan themed cuisine nights, Christmas party evenings and ‘Flowers that Do Lunch’, an afternoon of guided flower-arranging followed by lunch.
There’s something for everyone at Red Onion Garden Café, and Rhianna is always on hand to help with your culinary, horticultural or sustainability queries! For more information, check out their website: https://redonionwales.co.uk/
Wrth fynd i mewn i Gaffi Gardd y Red Onion, mae'r cyffyrddiad personol yn amlwg ar unwaith – o’r cacennau cartref blasus ar y cownter i’r bwrdd du sy'n amlinellu'r milltiroedd bwyd ar gyfer y cynnyrch ar y fwydlen, mae popeth yn y berl hon o gaffi wedi’i wneud â gofal. Mae Caffi Gardd y Red Onion yn cael ei rhedeg gan Rhianna Chilton ar dir hen ganolfan arddio sy'n perthyn i'w rhieni, ac mae’n ymgorffori gwerthoedd sefydliad teuluol, sy'n ymwybodol o'r amgylchedd, ac sydd â sgiliau gourmet hefyd.
Agorodd y caffi ym mis Mai 2021, ar ôl i Rhianna ddychwelyd o'i hamser yn byw yn Seland Newydd. Tra oedd hi yn Seland Newydd, magodd Rhianna ei hangerdd dros fyw a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ac mae wedi trwytho ei busnes gyda'r cariad hwn. Mae Caffi Gardd y Red Onion wedi mynd o nerth i nerth, gan gynnig brecwast, cinio, danteithion a diodydd trwy’r wythnos (gwiriwch y wefan i weld yr oriau agor presennol). Mae'r rhan fwyaf o’r cynnyrch ffres yn cael ei dyfu gartref ar y safle, yn y twneli tyfu mawr y tu ôl i'r caffi, lle gallwch grwydro i weld eich salad yn tyfu. Gallwch hyd yn oed eistedd a bwyta yn un o'r twneli wedi'u haddasu, yng nghanol ffrwythau, llysiau, planhigion ac, os ydych chi'n lwcus, cyw iâr ar grwydr!
Mae Rhianna yn prynu cymaint â phosibl o gynhwysion y caffi yn lleol yn Abergwaun a'r cyffiniau, gan gynnwys wyau ffres, llaeth a chig i gyd yn dod gan gynhyrchwyr lleol. Mae'r ethos cynaliadwy hwn yn cynnwys compostio gwastraff bwyd, paneli solar-thermol ar gyfer dŵr poeth, a hyd yn oed cynnig llety am ostyngiad yn y maes gwersylla ecogyfeillgar drws nesaf yn Fferm Glasfryn, sy'n cael ei rhedeg gan frawd Rhianna!
Ar ben gweini prydau blasus o ffynonellau lleol yn y caffi, mae Caffi Gardd y Red Onion hefyd yn cynnal digwyddiadau gwahanol i ddiddanu ac i ddenu. Bu’r 'Gyfres Cyri', a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2022 a Mawrth 2023, yn llwyddiant ysgubol – gan gynnig cyri gwahanol bob nos Wener i’w fwyta i mewn neu i fynd. Mae digwyddiadau poblogaidd eraill yn cynnwys Te Prynhawn Sul y Fam, nosweithiau coginio ar thema Mecsico a Moroco, nosweithiau parti Nadolig a 'Flowers that Do Lunch', prynhawn o drefnu blodau dan arweiniad ac wedyn cinio i ddilyn.
Mae rhywbeth i bawb yng Nghaffi Gardd y Red Onion, ac mae Rhianna bob amser wrth law i helpu gyda'ch ymholiadau am goginio, garddio neu gynaliadwyedd! I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar eu gwefan: https://redonionwales.co.uk/