The Orient B&B, Holyhead | Gwely a Brecwast The Orient, Caergybi

This charming green B&B is as beautiful inside as it is outside!

This family run B&B in Holyhead offers warm hospitality and fantastic food. | Mae'r gwesty gwely a brecwast yma sy'n cael ei redeg gan deulu yng Nghaergybi yn cynnig croeso cynnes a bwyd gwych.

Images

T. J. moved to Holyhead with two generations of her family in 2022. Originally from Vietnam they moved first to Belgium (yes, she speaks Flemish, and is learning Welsh), and then to Manchester. They have found the perfect mix of what they loved about all those places in their new home town. Holyhead first came to T. J.’s attention because her parents loved coming to line fish mackerel from the rocks. When moving here with her parents, they came with the idea of starting a hospitality business and fate drew them to a beautiful house, which has become their thriving B&B.

They arrived in May, gave the building some upgrades (these continue and will be ongoing where possible) and managed, miraculously opened their doors to visitors in just a few months. A quick glance at their Visitors' Book will make it clear that everyone who walks through the door is treated with kindness and warmth from their excellent host. The B&B is family friendly, and they also offer (with advanced booking) Vietnamese delights for lunch and dinner. A steaming bowl of Pho will warm any damp hiker or fishers’ heart, or indeed, bid a delicious welcome to those arriving over the Irish Sea.

Symudodd T. J. i Gaergybi gyda dwy genhedlaeth o'i theulu yn 2022. Mae’r teulu’n dod yn wreiddiol o Fietnam ac fe symudon nhw gyntaf i Wlad Belg (ydy, mae hi'n siarad Fflemeg, ac yn dysgu Cymraeg), ac wedyn i Fanceinion. Maen nhw wedi taro ar y cymysgedd perffaith o'r pethau roedden nhw’n eu caru yn yr holl leoedd hyn yma yn eu tref cartref newydd. Daeth Caergybi i sylw T. J. yn wreiddiol am fod ei rhieni wrth eu bodd yn dod yma i bysgota am fecryll ar y creigiau. Wrth symud yma gyda'i rhieni, y syniad oedd dechrau busnes lletygarwch a daeth eu tynged â nhw i dŷ hardd, sydd wedi dod yn westy gwely a brecwast ffyniannus.

Daethon nhw yma ym mis Mai, uwchraddio peth ar yr adeilad (sef gwaith sy’n parhau ac a fydd yn parhau lle bo modd) gan lwyddo’n wyrthiol i agor eu drysau i ymwelwyr mewn cwta fisoedd. Bydd cip cyflym ar eu Llyfr Ymwelwyr yn dangos yn glir fod pawb sy'n cerdded trwy'r drws yn cael ei drin â charedigrwydd a chynhesrwydd gan eu gwesteiwr rhagorol. Mae'r gwesty’n addas i deuluoedd, ac maen nhw hefyd yn cynnig (drwy drefnu ymlaen llaw) danteithion o Fietnam i ginio a swper. Bydd llond powlen chwilboeth o Pho yn cynhesu calon unrhyw gerddwr neu bysgotwr tamp, neu yn wir yn estyn croeso blasus i'r rhai sy'n cyrraedd dros Fôr Iwerddon.

Map

Porth-Y-Felin Rd, Holyhead, LL65 1PL