A Little Bit Eco, Holyhead | A Little Bit Eco, Caergybi

A beautifully and sustainably curated Zero Waste shop

Cathie's passion for sustainability shines through in her airy Holyhead refill shop. | Mae angerdd Cathie dros gynaliadwyedd yn pefrio drwy ei siop ail-lenwi braf yng Nghaergybi.

Images

A Little Bit Eco has been a feature in Holyhead for the last four years. Owner Cathie is early adopter and champion of sustainable practices. Her new, airy premises on William’s Street will provide you with all your refill needs, be it for your body, laundry or general cleaning throughout the home.

The personal nature of Cathies enterprise can be seen in every aspect of her shop. She is committed to recycling and sustainability in every detail. Her shelves are recycled, including one made from the remnants of a ladder and a broken bed. Her logo, designed by her daughter, is painted on recycled material, and then framed out by her son from a banister that had to be replaced.

All products are eco-friendly, made from sustainable plant based ingredients, that are cruelty free, vegan and kind to you an our planet. All products (excluding bamboo items) are made in the UK by small, often family run businesses. They are supplied on a circular system where all packaging is washed and reused.

Cathie's products for body are natural, kind for those with sensitivities and are gentle on your skin, teeth and hair. Be sure and ask her for advice on which products will suit your needs, as everything is carefully chosen by her, she can make excellent recommendations!

Mae A Little Bit Eco wedi bod yn amlwg yng Nghaergybi ers pedair blynedd bellach. Mae’r perchennog Cathie yn un sy’n mabwysiadu arferion cynaliadwy yn gynnar i’w hybu. Bydd ei safle braf newydd ar Stryd Williams yn cynnig eich holl anghenion ail-lenwi, boed ar gyfer eich corff, eich golch neu’ch gwaith glanhau cyffredinol trwy'r cartref.

Gallwch weld natur bersonol menter Cathie ym mhob agwedd ar y siop. Mae wedi ymrwymo i ailgylchu ac i gynaliadwyedd ym mhob manylyn. Mae ei silffoedd wedi’u hailgylchu, gan gynnwys un wedi'i gwneud o weddillion ysgol a gwely wedi torri. Mae ei logo, a ddyluniwyd gan ei merch, wedi'i baentio ar ddeunydd wedi'i ailgylchu, ac yna wedi’i fframio gan ei mab o hen ganllaw grisiau.

Mae'r cynhyrchion i gyd yn eco-gyfeillgar, wedi'u gwneud o gynhwysion cynaliadwy sy'n seiliedig ar blanhigion, yn rhydd o greulondeb, yn figan ac yn garedig i chi ac i’n planed. Mae'r cynhyrchion i gyd (ac eithrio eitemau bambŵ) yn cael eu gwneud yn y Deyrnas Unedig gan fusnesau bach, yn aml yn cael eu rhedeg gan deuluoedd. Maen nhw’n cael eu cyflenwi ar system gylchol lle mae'r holl ddeunydd pacio yn cael ei olchi a'i ailddefnyddio.

Mae cynhyrchion Cathie ar gyfer y corff yn naturiol, yn garedig i'r rhai â sensitifrwydd ac yn addfwyn ar eich croen, eich dannedd a’ch gwallt. Cofiwch ofyn am ei chyngor ar ba gynhyrchion fydd yn addas i'ch anghenion chi: gan fod popeth wedi’i ddewis ganddi'n ofalus, gall wneud argymhellion ardderchog!

Map

27 Williams street, Holyhead, LL65 1RN