The Shipwright Inn | Tafarn y Shipwright
A historic gastropub with spectacular views over Milford Haven
Media
Images
Text
The Shipwright Inn is a quaint and welcoming family run gastro pub. Located on Front Street, the pub is perfectly placed to view the historic Cambridge Gun Tower and the beautiful expanse of Milford Haven beyond. The pub is itself historic and may have been the ‘one public house’ that, along with 3 homes built for dockyard officials, made up the first four houses on Front Street in 1814. Owner Mike Lloyd has done his own research into the history of the pub, which he found to have been largely frequented by naval officers in the early 19th century. Tapping into the rich nautical history of the site, the décor of The Shipwright is an eclectic mix of maritime memorabilia, including fascinating vintage photographs of Pembroke Dock.
The Shipwright Inn holds a well-earned reputation for ‘awesome food and first-class customer service’. The food is delicious and hearty portions mean you’ll never leave hungry. The cosy pub is perfect for a chilly Pembrokeshire evening, while the waterside location means you can eat right by the sea in warm weather. You can stay up to date with the ever-changing menu by following The Shipwright Inn on Facebook, where their posts are sure to whet your appetite! In addition to food, you can also stay above the pub, where there are three guest rooms and a shared kitchen for guests and free parking … so guests on the move can leave The Shipwright both well fed and rested!
Mae Tafarn y Shipwright yn dafarn gastro deuluol hen a chroesawgar. Mae’n sefyll ar Front Street, ac mae mewn lle perffaith i weld y Tŵr Gynnau Caergrawnt hanesyddol ac ehangder hardd Aberdaugleddau y tu hwnt. Mae’r dafarn ei hun yn hanesyddol ac mae’n bosibl mai dyma’r ‘un dafarn’ a oedd, ynghyd â thri chartref a godwyd ar gyfer swyddogion y dociau, yn ffurfio’r pedwar tŷ cyntaf ar Front Street ym 1814. Mae’r perchennog Mike Lloyd wedi gwneud ei ymchwil ei hun i hanes y dafarn, ac mae wedi gweld mai swyddogion y llynges oedd y cwsmeriaid amlycaf ar ddechrau’r 19eg ganrif. Gan fanteisio ar hanes morwrol cyfoethog y safle, mae addurniadau’r Shipwright yn gymysgedd eclectig o fanion morwrol, gan gynnwys hen ffotograffau diddorol o Ddoc Penfro.
Mae gan Dafarn y Shipwright enw da haeddiannol am fwyd anhygoel a gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf. Mae’r bwyd yn flasus ac mae’r plateidiau llawn yn golygu na fyddwch chi byth yn gadael heb eich bodloni. Mae’r dafarn glyd yn berffaith ar gyfer noson oer yn Sir Benfro, tra bo’r lleoliad ar lan y dŵr yn golygu y gallwch chi fwyta wrth y môr mewn tywydd cynnes. Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y fwydlen sy’n newid yn barhaus trwy ddilyn Tafarn y Shipwright ar Facebook, lle mae eu negeseuon yn siŵr o godi chwant bwyd! Yn ogystal â bwyta, gallwch hefyd aros uwchben y dafarn, sydd â thair ystafell wely a chegin gyffredin i’r gwesteion a pharcio am ddim... felly gall gwesteion prysur adael y Shipwright wedi llenwi eu bol ac wedi gorffwys yn braf!