Coeden Beth Genealogy, Holyhead | Gwasanaeth Hel Achau Coeden Beth, Caergybi
An Anglesey genealogy and heritage service run by Beth Whitney
Media
Images
Text
Beth Whitney is a genealogist with a passion for Anglesey family history … this is perhaps why she has been to most of the over 100 graveyards of Anglesey! She is a hunter of the dead, finding the places your ancestors are potentially connected to, subject to surviving documentary evidence and oral stories. She found her love for investigating genealogy listening to the stories of her own older relatives (who were going to tell them either way!). From these stories she started finding out about her own roots, and now she will find yours for you … subject to what documents and sources survive to help her build up your family tree.
Finding family is not the only service she offers through her business, Coeden Beth. Beth also does one name and one place studies. One name studies involve researching everything about one surname, whereas a one place study is focussed on a specific location (e.g. street or a building) where Beth will find out everything about it from the rich documentary history available through census and other civil and religious records.
Mae Beth Whitney yn achydd sydd ag angerdd am hanes teuluol Ynys Môn... efallai mai dyna pam mae hi wedi bod yn y rhan fwyaf o'r mwy na 100 o fynwentydd ym Môn! Mae hi'n chwilio am y meirw, gan ddod o hyd i'r lleoedd y gallai’ch hynafiaid fod yn gysylltiedig â nhw, cyhyd ag y bydd tystiolaeth ddogfennol a straeon llafar wedi goroesi. Fe fagwyd ei chariad at hel achau wrth iddi wrando ar straeon ei pherthnasau hŷn ei hun (oedd yn mynd i'w hadrodd nhw beth bynnag!). O'r straeon hyn dechreuodd chwilio am ei gwreiddiau ei hun, a nawr bydd hi'n chwilio am eich gwreiddiau chi... gan ddibynnu ar ba ddogfennau a ffynonellau sydd wedi goroesi i'w helpu i hel eich achau.
Nid chwilio am deulu yw'r unig wasanaeth mae hi'n ei gynnig drwy ei busnes, Coeden Beth. Mae Beth hefyd yn gwneud astudiaethau un enw ac un lle. Mae astudiaethau un enw yn golygu ymchwilio i bopeth am un cyfenw, tra bo astudiaeth un lle yn canolbwyntio ar un lleoliad penodol (e.e. stryd neu adeilad) lle bydd Beth yn darganfod popeth amdano o'r hanes dogfennol cyfoethog sydd ar gael drwy'r cyfrifiad a chofnodion sifil a chrefyddol eraill.