Canolfan Ucheldre Centre
Media
Images
Text
The Ucheldre Centre is the beating heart of culture in Holyhead; it is housed in a former convent in the middle of Holyhead, just minutes from the port. The building was rescued from demolition by local residents in the late nineteen eighties and went on to become one of Wales’ leading art centres. The cost of refurbishing the Centre and its grounds in the early 1990s was met by a partnership involving the Welsh Office, Gwynedd County Council, Anglesey Borough Council, and the Welsh Development Agency. Some of the facilities have also come from grants provided by the Arts Council of Wales Lottery Fund, Community Facilities Programme, and the Foundation for Sport and the Arts.
The building now houses a 150-seat performance space and a 120-seat amphitheatre surrounded by trees, shrubs, and a laburnum arch. Ucheldre’s programme is wide-ranging including concerts, drama, film, satellite broadcasts, various workshops, clubs and societies. and literary events. The main art exhibitions typically change every six weeks, bringing a constant succession of new and interesting work to Anglesey. Ucheldre’s diverse programming weaves together two major strands: performers and artists of international standing bring high-quality arts to Anglesey, and community events to nurture and celebrate the creativity of local people.
Ucheldre is governed by a group of elected volunteer Trustees/Directors who delegate day-to-day operations to a General Manager and staff, assisted by a team of volunteers who jointly give over 100 hours of time each week.
There’s also the Ucheldre Kitchen restaurant, shop, grounds and walled sculpture garden. The Centre is an important part of the cultural life of Holyhead, but is also often used by people visiting nearby Snowdonia, travelling on by ferry to or from Ireland, and is easily reached via mainline rail links or along the A55 from the whole of North Wales.
Ucheldre has been awarded UK Gov Levelling Up Funding with a matching Arts Council of Wales grant for extensive additions (dance and art studios) and refurbishment. There will be some juggling of facilities over the next 2 years with for eg the Kitchen limited to providing refreshments and cakes. However, Ucheldre aims to keep open with an enticing programme as ever. For more information, check out their website: https://ucheldre.org
Canolfan Ucheldre yw calon diwylliant Caergybi; mae wedi’i lleoli mewn hen leiandy yng nghanol Caergybi, funudau’n unig o’r porthladd. Cafodd yr adeilad ei achub rhag ei ddymchwel gan drigolion lleol ar ddiwedd y 1980au ac aeth ymlaen i fod yn un o brif ganolfannau celf Cymru. Cafodd cost adnewyddu’r Ganolfan a’i thiroedd ei thalu ar ddechrau’r 1990au gan bartneriaeth yn cynnwys y Swyddfa Gymreig, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Môn, ac Asiantaeth Datblygu Cymru. Mae rhai o’r cyfleusterau hefyd wedi dod o grantiau gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, a’r Sefydliad Chwaraeon a’r Celfyddydau.
Mae’r adeilad bellach yn gartref i le perfformio â 150 o seddi ac amffitheatr â 120 o seddi wedi’i hamgylchynu gan goed, llwyni, a bwa tresi aur. Mae rhaglen Ucheldre yn eang ac yn cynnwys cyngherddau, drama, ffilm, darllediadau lloeren, gweithdai amrywiol, clybiau a chymdeithasau a digwyddiadau llenyddol. Mae’r prif arddangosfeydd celf fel arfer yn newid bob chwe wythnos, gan ddod ag olyniaeth gyson o waith newydd a diddorol i Ynys Môn. Mae rhaglenni amrywiol Ucheldre yn plethu dwy elfen bwysig: mae perfformwyr ac artistiaid o statws rhyngwladol yn dod â chelfyddydau o safon uchel i Ynys Môn, a digwyddiadau cymunedol i feithrin a dathlu creadigrwydd pobl leol.
Mae Ucheldre yn cael ei lywodraethu gan grŵp o Ymddiriedolwyr/Cyfarwyddwyr gwirfoddol etholedig sy’n dirprwyo’r gwaith beunyddiol i Reolwr Cyffredinol a staff, gyda chymorth tîm o wirfoddolwyr sy’n rhoi dros 100 awr o amser bob wythnos ar y cyd.
Mae yna fwyty Cegin Ucheldre, siop, tiroedd a gardd gerfluniau furiog hefyd. Mae’r Ganolfan yn rhan bwysig o fywyd diwylliannol Caergybi, ond mae hefyd yn cael ei defnyddio’n aml gan bobl sy’n ymweld ag Eryri gerllaw, yn teithio ar fferi yn ôl ac ymlaen i Iwerddon, ac mae’n hawdd ei chyrraedd trwy gysylltiadau’r brif reilffordd neu ar hyd yr A55 o Ogledd Cymru gyfan.
Mae Ucheldre wedi cael Cyllid Codi’r GGwastad gan lywodraeth y Deyrnas Unedig gyda grant cyfatebol gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ychwanegiadau helaeth (stiwdios dawns a chelf) a gwaith adnewyddu. Bydd rhywfaint o jyglo cyfleusterau dros y ddwy flynedd nesaf gyda’r gegin er enghraifft wedi’i chyfyngu i ddarparu lluniaeth a chacennau. Er hynny, mae Ucheldre’n anelu at aros yn agored gyda rhaglen yr un mor ddeniadol ag erioed. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar eu gwefan: https://ucheldre.org
Mae yna fynediad gwastad neu fynediad ar ramp i bob man cyhoeddus (gan gynnwys yr amffitheatr a’r ardd furiog gyda’i gwelyau synhwyraidd a’i ramp ei hun) a thoiled hygyrch. Polisi’r Ganolfan yw bod mor groesawgar a chymwynasgar â phosibl i bawb sy’n ymweld â hi. Mae croeso i ymwelwyr ffonio neu anfon neges ebost ymlaen llaw i wirio agweddau penodol ar hygyrchedd a gall aelod o’r staff drefnu cyfarfod â chi a’ch helpu yn ôl yr angen.