The Ferryboat Inn | Gwesty’r Ferryboat
Media
Images
Text
Located in the heart of Fishguard, just 500m from the Stena harbour/port entrance you will find the stylish and comfortable Ferryboat Inn (built in the style of a traditional Welsh ‘long house’). Owners Jacqui and Peter run the B&B as their semi-retirement project. After spending years running their own logistics firm in West Sussex, long hours and lots of pressure began to take their toll. Jacqui and Peter made the conscious decision to look for a B&B. They weren’t looking at any specific location and were surprised when they found the Ferryboat Guesthouse and it ticked every box. They visited Pembrokeshire and “it seemed so peaceful and quiet. The countryside is stunning, the coast is beautiful, and the people are just so friendly”. They fell in love.
After taking over the Ferryboat they found it more run down than was originally expected. Then started five years of upheaval with Brexit, Covid and now the Ukraine war, whilst renovating the Business and home. Nevertheless, Jacqui and Peter have turned the Ferryboat Inn into a vibrant and welcoming guest house. Each of their seven en-suite guest rooms is individual in their own way. Cosy rooms infused with colour and style with attention to detail. From deep pile carpets to simple modern furniture, extremely comfortable beds, well-stocked hospitality trays, complimentary toiletries and even your chocolate mint treat fix before bed. They also offer a small but varied honesty bar just to add to your creature comforts. All of the rooms are equipped with smart TVs and free WIFI as standard.
For breakfast Jacqui and Peter offer a varied hot selection menu (freshly cooked to order) to suit most palates and allergy requirements. Served in their bright and modern breakfast room (table service), they also offer self-service continental breakfast options.
Now that Jacqui and Peter have achieved almost all they set out to do with the guesthouse they are free to enjoy their semi-retirement, “it is totally different from our previous business in every way. Now all the hard work is done we are starting to enjoy where we live, We love meeting new people and Jacqui loves to cook, it’s almost like the job was made for us.”
For more information and to book a stay at the Ferryboat Inn, please visit their website here: ferryboatinn.co.uk
Yng nghanol tref Abergwaun, cwta 500m o fynedfa harbwr/porthladd Stena mae gwesty steilus a chyffyrddus y Ferryboat (a godwyd yn null y ‘tŷ hir’ Cymreig traddodiadol). Mae'r perchnogion Jacqui a Peter yn rhedeg y lllety gwely a brecwast fel eu prosiect lled-ymddeol. Ar ôl treulio blynyddoedd yn rhedeg eu cwmni logisteg eu hunain yng Ngorllewin Sussex, dechreuodd yr oriau hir a’r pwysau mawr effeithio arnyn nhw a dyma wneud y penderfyniad pendant i chwilio am lety Gwely a Brecwast. Doedden nhw ddim yn edrych ar unrhyw leoliad penodol ac fe gawson nhw eu synnu pan ddaethon nhw o hyd i westy'r Ferryboat a sylweddoli ei fod yn ticio pob blwch. Daethon nhw i ymweld â Sir Benfro a chael bod y cyfan “mor heddychlon a thawel. Mae’r cefn gwlad yn syfrdanol, mae'r arfordir yn brydferth, ac mae'r bobl mor gyfeillgar”. Syrthiodd y ddau mewn cariad.
Ar ôl cymryd yr awenau yn y Ferryboat dyma sylweddoli bod ei gyflwr yn waeth na'r disgwyl yn wreiddiol. Yna dechreuodd pum mlynedd o gynnwrf gyda Brexit, Covid a nawr rhyfel Wcráin, wrth iddyn nhw adnewyddu’r busnes a’r cartref. Er hynny, mae Jacqui a Peter wedi troi gwesty’r Ferryboat yn llety bywiog a chroesawgar. Mae pob un o'u saith ystafell en-suite i westeion yn unigryw yn eu ffordd eu hunain: ystafelloedd clyd llawn lliw a steil gyda sylw i fanylion. O garpedi trwchus i ddodrefn modern syml, gwelyau hynod gyffyrddus, llwyth o nwyddau ar hambwrdd i’ch croesawu, pethau ymolchi am ddim a hyd yn oed eich trît mintys siocled cyn clwydo. Maen nhw hefyd yn cynnig bar gonestrwydd bach ond amrywiol ar ben eich cysuron corfforol. Mae gan bob un o'r ystafelloedd setiau teledu clyfar a WIFI am ddim.
I frecwast mae Jacqui a Peter yn cynnig bwydlen amrywiol o brydau poeth (wedi'u coginio'n ffres ar ôl ichi archebu) i ateb bron pob chwaeth ac anghenion alergedd. Gweinir wrth y bwrdd yn eu stafell frecwast lachar a modern ac maen nhw hefyd yn cynnig opsiynau brecwast cyfandirol hunan-wasanaeth.
Gan fod Jacqui a Peter bellach wedi cyflawni bron y cyfan y maen nhw wedi bwriadu ei wneud gyda'r gwesty maen nhw’n rhydd i fwynhau eu hanner-ymddeoliad: “mae'n hollol wahanol i'n busnes blaenorol ni ym mhob ffordd. Nawr bod yr holl waith caled wedi'i wneud rŷn ni'n dechrau mwynhau lle rŷn ni'n byw. Rŷn ni wrth ein bodd yn cwrdd â phobl newydd ac mae Jacqui wrth ei bodd yn coginio. Mae hi bron fel petai’r swydd wedi'i chreu inni.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu llety yng Ngwesty’r Ferryboat, ewch i’w gwefan: ferryboatinn.co.uk