The Dublin Diving Bell | Cloch Blymio Dulyn
Media
Images
Text
Refurbished in 1989 and 2015, the diving bell is an imposing reminder of the industrial and engineering history of Dublin Port, as well as of teams of men who worked beneath the waters of the River Liffey.
Dublin port was historically hazardous for ships to access. Sand banks, a lack of shelter, and the shallowness of the Liffey combined to wreck many ships and to have a prejudicial impact on trade. So, in 1715, the Ballast Office Committee (replaced by the Dublin Port and Docks Board in 1867) began the first of a series of huge public works to improve the port’s facilities.
The story of the diving bell begins around 150 years later during the building of the North Wall Extension. It was designed by the tenacious Bindon Blood Stoney and built in Drogheda by Grendon and Co. in the 1860s, and is still widely regarded as a feat of Irish engineering which revolutionized construction in Dublin port. From 1871, it was used to lower teams of workmen down to the seabed to level the ground before huge prefabricated concrete blocks were sunk to create the wall.
Working inside the bell was not a comfortable experience. The bell chamber was twenty feet square and six and a half feet tall. The atmosphere was hot and moist, as the cold water without reacted with the inside temperature to create a fog. But, worst of all, working in compressed air caused ear trauma and bleeding from the nose and ears. Nevertheless, the bell continued to be used for port construction work into the 1950s.
The sheer scale of the port developments, and the size of the machinery they required, attracted the interest of numerous influential sight-seers. Among other tourists whose visits were recorded in contemporary newspapers, Stoney was required to show William Gladstone around the works in 1877, and the Prince and Princess of Wales officiated at the naming ceremony for Stoney’s new deep-water docks in 1885. A site of pageantry and impressive feats of engineering, the port was a spectacle. Still, the diving bell had a yet more popular appeal.
Always quick to capitalize on the visual appeal of new and impressive technology, the Anglo-Irish playwright Dion Boucicault included a diving bell in his ‘Fairy Spectacular’ Babil and Bijou, which premiered at London’s Covent Garden Theatre (now the Royal Opera House) in 1872, only one year after Stoney’s diving bell was brought into service in Dublin. Babil and Bijou was a visual feast with eighteen tableaux, extravagant scenery and special effects. It is a meandering tale in which the half-fairy, Bijou, searches for her mother’s royal regalia in order to reclaim her throne. Her quest leads her, and her betrothed, to a forest, to the moon, and under the sea, where – naturally – the diving bell makes its appearance. Threatened by an octopus, the lovers escape when a diving bell magically descends to the seabed and carries them back to the surface.
Boucicault was always alert to how new technologies could produce a sensational stage effects. Only four years before, his drama After Dark (1868) had recreated a speeding underground train for excited playgoers whilst London’s underground network was still in its infancy – the first section of the tube opened in 1863. In choosing to use the diving bell as a stage effect so soon after it had been put to work in a radically new way in Dublin, Boucicault allows us to see how the diving bell was received as popular spectacle as well as a feat of engineering in the nineteenth century. For, although Babil and Bijou was not one of Boucicault’s greatest successes, it still indicates that the spectacle of the diving bell was an entertainment for the nineteenth-century public, in addition to its role in engineering port construction. Even a stinging review in the theatrical newspaper The Era had to admit that ‘as a spectacle [the play] is more than magnificent’, and gave the diving bell a special mention. In this sense, we can see how port technology developed in Dublin had an impact elsewhere, and came to influence spectacular representations of underwater worlds in unexpected ways and in distant port cities.
Saif y gloch blymio, a adnewyddwyd yn 1989 a drachefn yn 2015, yn urddasol i’n hatgoffa o gefndir diwydiannol a pheirianyddol Porthladd Dulyn, ac am hanes y timau o ddynion a fu’n gweithio dan ddyfroedd afon An Life (Liffey).
Yn y gorffennol, roedd y porthladd hwn yn un peryglus i longau ddod i mewn iddo. Rhwng y banciau tywod, diffyg cysgod, a’r ffaith fod An Life mor fas, cafwyd aml i longddrylliad a châi hynny yn ei dro effaith negyddol ar fasnach. Felly, yn 1715, cychwynnodd Pwyllgor Swyddfa Ballast (a ddisodlwyd gan Fwrdd Porthladd a Dociau Dulyn yn 1867) ar y gwaith mawr o wella’r cyfleusterau.
Mae stori’r gloch blymio yn dechrau gan mlynedd a hanner yn ddiweddarach, yn ystod y gwaith o godi Estyniad Wal y Gogledd. Fe’i cynlluniwyd gan y peiriannydd dygn Bindon Blood Stoney a’i rhoi at ei gilydd gan Grendon and Co. yn Droichead Átha (Drogheda) yn ystod y 1860au. Mae’n dal i gael ei hystyried yn gampwaith yn hanes peirianyddol Iwerddon, a chredir iddi chwyldroi’r gwaith adeiladu ym Mhorthladd Dulyn. O 1871 ymlaen fe’i defnyddid i ollwng timau o weithwyr i lawr i wely’r môr i lefelu’r ddaear cyn i flociau enfawr o goncrid parod gael eu suddo i greu wal.
Doedd gweithio y tu mewn i’r gloch ddim yn brofiad braf. Ugain troedfedd sgwâr a chwe throedfedd a hanner o uchder oedd siambr y gloch. Roedd yr awyrgylch yn boeth a llaith wrth i’r dŵr oer ar y tu allan adweithio gyda’r tymheredd ar y tu mewn i greu niwl. Ond y peth gwaethaf oedd bod gweithio yn yr aer cywasgedig yn peri trawma i’r glust ac yn achosi i’r trwyn a’r llygaid waedu. Er hynny, daliwyd i ddefnyddio’r gloch wrth y gwaith o ddatblygu’r porthladd tan y 1950au.
Denwyd sylw aml i ymwelydd dylanwadol gan raddfa ryfeddol y gwaith datblygu a maint y helaeth peiriannau. Ymhlith ymwelwyr eraill yr adroddwyd amdanynt mewn papurau newydd cyfoes, gofynnwyd i Stoney dywys William Gladstone o gwmpas y safle yn 1877, a bu Tywysog a Thywysoges Cymru yn gweinyddu yn seremoni enwi’r dociau dŵr dwfn newydd yn 1885. Roedd y porthladd yn lle ysblennydd i ymweld ag ef, yn safle i basiantri a champau gwefreiddiol ym myd peirianneg. Eto i gyd, roedd i’r gloch blymio ei hun apêl fwy poblogaidd fyth.
Ac yntau’n barod bob amser i fanteisio ar apêl technoleg newydd gyffrous, aeth y dramodydd Eingl-Wyddelig Dion Boucicault ati i gynnwys cloch blymio yn Babil and Bijou, a berfformiwyd am y tro cyntaf erioed yn Theatr Covent Garden yn Llundain (y Tŷ Opera Brenhinol erbyn hyn) yn 1872 – flwyddyn yn unig wedi iddynt ddechrau defnyddio cloch Stoney yn Nulyn. Roedd Babil and Bijou yn wledd i’r llygaid, gyda deunaw tableau, golygfeydd ysblennydd ac effeithiau arbennig. Mae’r stori’n un droellog, gyda’r hanner tylwythen deg, Bijou, yn mynd ati i chwilio am regalia brenhinol ei mam er mwyn cael hawlio ei gorsedd yn ôl. Mae ei chyrch yn ei harwain hi a’i dyweddi i ganol fforest, i’r lleuad, ac o dan y môr, a dyna lle y gwelir y gloch blymio wrth gwrs. Caiff y ddau gariad eu bygwth gan octopws ond llwyddant i ddianc wrth i’r gloch ddisgyn yn amserol i wely’r môr a’u cludo’n ôl i’r wyneb.
Roedd Boucicault yn effro bob amser i’r modd y gallai technoleg newydd greu effeithiau llwyfan cyffrous. Gwta bedair blynedd ynghynt, yn y ddrama After Dark (1868), roedd wedi rhoi gwefr i’w gynulleidfa wrth gyfleu trên danddaearol yn gwibio mynd; hynny pan oedd rhwydwaith tanddaearol Llundain yn rhywbeth newydd iawn, a’r rhan gyntaf dim ond wedi agor ers 1863. Wrth ddewis portreadu’r gloch blymio mor fuan wedi i honno ddechrau gael ei defnyddio mewn ffordd mor radical yn Nulyn, mae Boucicault yn ein galluogi ni i weld sut y câi honno ei hystyried yn dipyn o sbectacl boblogaidd yn ogystal ag yn gamp beirianyddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Oherwydd, er nad oedd Babil and Bijou yn un o lwyddiannau mwyaf Boucicault, y mae serch hynny yn dangos bod sbectacl y gloch blymio yn adloniant i gynulleidfa’r cyfnod, yn ogystal â’i rôl ymarferol yn y gwaith o ddatblygu’r porthladd. Hyd yn oed mewn adolygiad brathog a gafodd y ddrama yng nghylchgrawn The Era, addefwyd ei bod, ‘as a spectacle’, yn ‘more than magnificent’, a chyfeiriwyd yn benodol at y gloch blymio. Yn hyn o beth, gellir gweld sut y cafodd technoleg porthladd a ddatblygwyd yn Nulyn effaith mewn mannau ymhell y tu hwnt i hynny, ac y daeth i ddylanwadu mewn ffordd annisgwyl ar bortread o fyd tanddwr mewn dinas arall ymhell i ffwrdd.