Geoff Charles in Holyhead | Geoff Charles yng Nghaergybi
Media
Images
Text
Geoff Charles (1909-2002) was an outstanding photojournalist from Wales. Over the course of four decades, he captured all aspects of life in Wales, particularly in the Welsh-speaking areas.
In the 1930s, he worked for several Welsh newspapers. Later that decade, Charles began his association with the newspaper Y Cymro, which came to full fruition after the end of the Second World War. He famously documented life in rural Wales, but also undertook repeated visits to the more industrial areas, as shown by his photographs of Holyhead, its people and goings-on in and around the harbour.
Geoff Charles's extensive photographic archive with over 120,000 negatives is now preserved and digitised by the National Library of Wales.
Roedd Geoff Charles (1909-2002) yn ffotonewyddiadurwr rhagorol o Gymro. Dros gyfnod o bedwar degawd, bu’n tynnu lluniau o bob agwedd ar fywyd yng Nghymru, yn enwedig yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith.
Yn y 1930au, bu'n gweithio i sawl papur newydd yng Nghymru. Yn ddiweddarach yn y degawd hwnnw, dechreuodd Charles ei gysylltiad â’r Cymro, y papur newydd a ddaeth i’w anterth ar ôl diwedd yr ail ryfel byd. Bu'n enwog am ddogfennu bywyd yn y Gymru wledig, ond ymwelodd dro ar ôl tro â'r ardaloedd mwyaf diwydiannol hefyd, fel y gwelir yn ei luniau o Gaergybi, ei phobl a'i busnesau yn yr harbwr ac yn y cyffiniau.
Erbyn hyn, Mae archif ffotograffig helaeth Geoff Charles gyda dros 120,000 o negatifau yn cael ei chadw a'i digideiddio gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.