Fishguard's Jemimas | Jemimas Abergwaun
Media
Images
Audio
Text
The story goes that during the French Invasion of Fishguard in 1797, Jemima Nicholas, a most formidable woman and cobbler, single-handedly rounded up 12 French soldiers, marched them through town and locked them up in St Mary's church. Through repeated retellings over the past two centuries, her myth has grown and townfolk have taken her to their hearts so much so that during the bicentenary celebrations in 1997, local Yvonne Fox took on the role of playing Jemima during the lavish re-enactment of the event. So popular was her interpretation of the character that henceforth, she returned to the role on hundreds of occassions and became the town's official Jemima. Fishguard mourned Fox's sudden and unexpected death in 2010 and for a while there was no one to step into the role until recently.
Jana Davidson sat down with Ports, Past and Present to talk about Yvonne Fox's legacy and how more recently local women have taken over Jemima's scarlet mantle.
Yn ôl y sôn, yn ystod Goresgyniad y Ffrancod yn Abergwaun ym 1797, aeth Jemima Nicholas, crydd a draig o ddynes, ati ar ei phen ei hun i gipio 12 o filwyr Ffrengig, eu gorymdeithio trwy'r dref a'u cloi yn eglwys Santes Fair. Trwy adrodd y stori dro ar ôl tro dros y ddwy ganrif ddiwethaf, mae'r myth amdani wedi tyfu ac mae pobl y dref wedi cymryd ati gymaint fel bod Yvonne Fox, menyw leol, wedi chwarae Jemima yn ystod y dathliadau deucanmlwyddol ym 1997, yn ystod yr ailgread mawr o'r digwyddiad. Bu ei dehongliad o'r cymeriad mor boblogaidd, fel y cyflawnodd y rôl gannoedd o weithiau ar ôl hynny, a hi fu Jemima swyddogol y dref. Bu Abergwaun yn galaru marwolaeth sydyn ac annisgwyl Fox yn 2010 ac am ryw ychydig, nid oedd unrhyw un ar gael i gyflawni'r rôl, tan yn ddiweddar.
Bu Jana Davidson yn sôn wrth Borthladdoedd, Ddoe a Heddiw, am effaith Yvonne Fox a sut y mae menywod lleol wedi cydio ym mantell sgarlad Jemima yn fwy diweddar.