The RAAF in Pembroke Dock | Yr RAAF yn Noc Penfro
Media
Images
Text
After the end of ship building in Pembroke Dock in 1926, the RAF set up an air base for flying boats in the disused dockyard in 1930. In 1938, they introduced the famous Sunderland flying boats to the fleet. During the Second World War, Pembroke Dock was one of the most important stations in protecting south-western Atlantic convoys from attacks by German submarines.
It was during this time that No. 10 and No. 461 Squadrons of the Royal Australian Air Force joined the RAF and other allied air forces in Pembroke Dock which by then had developed into the world's largest operating flying boat air base with over 100 aircraft and 1000 personnel. Owing to the town's military significance in the war, Pembroke Dock suffered repeated air raids, particularly in 1940 when German bombing raids destroyed over 200 houses.
The Sunderland flying boats continued in operation after the war until 1957. The station eventually closed in 1959, but some of the hangars that used to house the planes remained. It was here that Pembroke Dock's final ship was constructed and took to the cinematic skies twenty years later, when Marcon Fabrications was contracted by Lucasfilm to build the lifesize model of the Millennium Falcon.
Ar ôl gorffen adeiladu llongau yn Noc Penfro ym 1926, sefydlodd yr Awyrlu Brenhinol safle ar gyfer awyrennau môr yn yr hen iard longau ym 1930. Ym 1938, cyflwynwyd awyrennau môr enwog Sunderland i'r fflyd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, Doc Penfro oedd un o'r gorsafoedd pwysicaf a oedd yn diogelu minteioedd de-orllewin yr Iwerydd rhag ymosodiadau gan longau tanfor Almaenig.
Yn ystod y cyfnod hwn, ymunodd Sgwadronau Rhif 10 a Rhif 461 Awyrlu Brenhinol Awstralia â'r awyrlu Brenhinol a lluoedd awyr eraill y cynghreiriaid yn Noc Penfro, ac erbyn hynny, hwn oedd y lleoliad gweithredol mwyaf yn y byd ar gyfer awyrennau môr, gyda dros 100 o awyrennau a 1000 o bersonél. Oherwydd arwyddocâd milwrol y dref yn y rhyfel, dioddefodd Doc Penfro nifer fawr o gyrchoedd awyr, yn enwedig ym 1940 pan ddinistriodd cyrchoedd bomio Almaenig dros 200 o dai.
Parhaodd awyrennau môr Sunderland i hedfan ar ôl y rhyfel, tan 1957. Caewyd yr orsaf yn y diwedd ym 1959, ond roedd rhai o'r siediau awyrennau lle'r arferwyd cadw'r awyrennau wedi aros. Fan hyn yr adeiladwyd llong olaf Doc Penfro, gan esgyn i'r awyr sinematig ugain mlynedd yn ddiweddarach, pan gontractiwyd Marcon Fabrications gan Lucasfilm i adeiladu model maint llawn o'r Millennium Falcon.