The Wreck of the Royal Charter | Llongddrylliad Royal Charter

Plundered by ‘Natives’? | Wedi’i hysbeilio gan ‘Frodorion’?

The horrific wreck of the Royal Charter had all of the elements of a sensational story: a huge loss of life, gold strewn on the shore, and a news feast accusing the people of Moelfre with plundering the wreck and stripping the bodies of victims for loot. | Roedd llongddrylliad ofnadwy Royal Charter yn cynnwys holl elfennau stori gyffrous: nifer fawr o farwolaethau, aur wedi’i wasgaru ar y lan, a’r newyddion yn cyhuddo pobl Moelfre o ysbeilio’r llongddrylliad a chwilio cyrff y dioddefwyr am ysbail.

Images

The horrific wreck of Royal Charter in 1859 had all of the elements of a sensational story: huge loss of life and riches in the form of Australian gold. Men were seen 'picking sovereigns out of the holes and crevices of the rocks as they would shell fish.'  A news feast accused the people of Anglesey of plundering the wreck and stripping the bodies of victims washing ashore.

Enroute from Melbourne, Australia in 1859, the steam clipper Royal Charter had called at Cobh before heading into the Irish Sea for Liverpool. Then came one of the severest gales recorded, driving her against the cliffs near Moelfre, Anglesey. Monuments stand in remembrance of the approximately 500 lives lost, but they do not show the wealth of stories originating on that fateful day.

Capt. Mends of H.M.S Hastings was called to protect the cargo because 'it was being plundered by the natives.' An English paper, inflaming the rhetoric, claimed gangs of [Moelfre] wreckers have sweeped [sic] down on Moelfre Bay ... surfeiting their itching palms with dead men's treasure.' A local Welsh language paper castigated people for looting the wreck and bringing shame upon Anglesey: 'Y llong yn ddarnau, a phobl y wlad yn ysbeilio!

These charges were not unlike news columns describing ‘wreckers' looting ships that had wrecked on Cornish shores. Like those stories, the charges need investigating. Were the people of Moelfre guilty of such 'barbarism' and 'plunder'?

They had their defenders; the Caernarvon and Denbigh Herald printed a spirited defence against the libellous charges. Local people were praised in the survivors’ testimony.  The Liverpool Daily Post admitted the Coastguard and militia weren't needed to prevent plunder 'to the credit of the Anglesea peasantry.'  Even a Beaumaris correspondent admitted that the people he saw picking up gold sovereigns handed them to the Collector of Customs.

So, was this a non-story? Not quite.

At the Menai Petty Sessions on 7 November 1859, just over a week after the wreck, fourteen-year-old William Parry was tried for stealing a gold watch from the beach; Henry Roberts for taking gold rings and paper bills of exchange drawn from an Australian bank; and David Edwards for stealing a shirt, a Guernsey jacket, and an anchor.

'Stealing from a wreck' was a crime under the Merchant Shipping Act, 1850. Anyone found stealing any part of a wreck or cargo could be fined £50 and other penalties, including gaol. The act downgraded the punishment from a capital felony. The trial reports suggest how local Anglesey people interpreted the act of 'wrecking'. It is doubtful they understood the law; merchants and lawyers argued over its meaning.

Young William Parry believed he could claim clothing from the shore. He readily admitted to taking some 'trowsers' and 'rags' while hiding the watch. David Edwards, too, told police that 'there was no harm' in taking the shirt and Guernsey jacket. This belief is in keeping with other examples around Britain where people thought that 'wreck' washing ashore was a 'gift' of the sea (or from God).

Parry hoped that the owner of the watch would offer a reward. Roberts also wanted a reward. Indeed, he did not trust the officers at the wreck site, claiming that he intended to hand over the gold rings and bills of exchange to the Receiver of Wreck in Beaumaris. His case highlighted previous experiences local people had with law enforcement over salvage. When Rothsay Castle was lost in 1831 near Moelfre, many poor people were not paid for what they found.

In the eighteenth century, salvage payments for wreck were often paid in kind on the spot. By the nineteenth century, payment was caught up in government bureaucracy. 'Wrecking' often occurred when people distrusted authorities, taking wrecked goods as salvage payment themselves.

David Edward's case had a twist. While he was arrested for 'stealing', in fact he was acting under the authority of local rector, Rev. Stephen Roose Hughes, who had asked people to collect whatever items they could find and bring them to him, so they could be used to identify victims.

The three arrests led to only one conviction -- William Parry was sent to jail for fourteen days, 'as an example to other persons in the neighbourhood.' Henry Roberts was then tried at the assizes for felony, where his case was dismissed because he was drunk. David Edwards’s case was dismissed outright.

The cases didn’t support the press rhetoric. Of course, they may have been intentional theft. A Coastguard officer testified: ‘if a man should accidently pick up a sovereign and put it in his pocket, who could blame him!' Indeed. At the first coroner’s inquest, it was noted that 'the report as to plundering by the natives is said to be entirely unfounded.' But also: 'it is hinted here […] that those who are paid for watching the wrecked property require some "watching" themselves’!

Roedd llongddrylliad ofnadwy Royal Charter ym 1859 yn cynnwys holl elfennau stori gyffrous:  nifer fawr o farwolaethau a chyfoeth ar ffurf aur o Awstralia.  Gwelwyd dynion yn ‘pigo sofrenni o dyllau ac agennau y creigiau, fel pe baent yn pigo pysgod cregyn.’  Roedd y newyddion yn cyhuddo pobl Ynys Môn o ysbeilio’r llongddrylliad a dinoethi cyrff y dioddefwyr a oedd wedi golchi ar y lan.

Roedd cliper ager Royal Charter wedi gadael Melbourne, Awstralia ym 1859, ac roedd wedi galw yn Cobh cyn ei throi hi am Lerpwl gan groesi Môr Iwerddon.  Yna, gwelwyd un o’r hyrddwyntoedd cryfaf a gofnodwyd erioed, a gwthiwyd y llong yn erbyn y clogwyni ger Moelfre, Ynys Môn.  Mae cofebau wedi’u codi yno i gofio’r 500 o bobl a fu farw, ond nid ydynt yn dangos cyfoeth y straeon sy’n deillio o’r diwrnod tynghedus hwnnw.

Galwyd ar Gapten Meds o H.M.S Hastings i ddiogelu’r cargo gan ei fod ‘yn cael ei ysbeilio gan y brodorion.’  Roedd papur newydd Seisnig, gan ddefnyddio rhethreg ymfflamychol, wedi honni bod criwiau o ysbeilwyr [Moelfre] wedi heidio i Fae Moelfre ...  gan syrffedu eu cledrau dwylo coslyd gyda thrysor y meirw.’  Roedd papur newydd Cymraeg lleol wedi ei dweud hi’n hallt am bobl am ysbeilio’r llongddrylliad ac am ddwyn anfri ar Ynys Môn:  'Y llong yn ddarnau, a phobl y wlad yn ysbeilio!

Nid oedd y cyhuddiadau hyn yn annhebyg i golofnau newyddion a oedd yn disgrifio ‘ysbeilwyr’ yn anrheithio llongau a oedd wedi dryllio ar hyd arfordir Cernyw.  Fel y straeon hynny, mae angen ymchwilio i’r cyhuddiadau.  A oedd pobl Moelfre yn euog o gyflawni’r fath ‘anwareidd-dra’ ac ‘ysbeilio’?

Roedd ganddynt eu hamddiffynwyr;  roedd Caernarvon and Denbigh Herald wedi argraffu amddiffyniad angerddol yn erbyn y cyhuddiadau enllibus.  Canmolwyd pobl leol yn nhystiolaeth y sawl a oedd wedi goroesi.  Cyfaddefodd Liverpool Daily Post nad oedd angen Gwylwyr y Glannau a’r milisia i atal ysbeilio ‘er clod gwerin bobl Ynys Môn.’  Roedd gohebydd o Fiwmares hyd yn oed wedi cyfaddef bod y bobl a welodd yn casglu sofrenni wedi eu rhoi i’r Casglwr Tollau.

Felly ai stori nad oedd yn stori mewn gwirionedd oedd hon?  Ddim yn hollol.

Yn Sesiwn Fach Menai ar 7 Tachwedd 1859, ychydig dros wythnos ar ôl y llongddrylliad, rhoddwyd William Parry, a oedd yn bedair ar ddeg oed, ar brawf am ddwyn oriawr aur o’r traeth;  rhoddwyd Henry Roberts ar brawf am gymryd modrwyon aur a biliau cyfnewid papur wedi’u tynnu o fanc yn Awstralia;  a rhoddwyd David Edwards ar brawf am ddwyn crys, siaced Guernsey ac angor.

Roedd ‘dwyn o longddrylliad’ yn drosedd dan Ddeddf Llongau Masnach 1850.  Gallai unrhyw un y byddent yn cael eu canfod yn dwyn unrhyw ran o longddrylliad neu gargo gael dirwy o £50 a chosbau eraill, gan gynnwys cyfnod yn y carchar.  Roedd y ddeddf yn israddio’r gosb o ffeloniaeth ddihenydd.  Mae’r adroddiadau am y treialon yn awgrymu sut yr oedd pobl Ynys Môn wedi dehongli gweithred ‘dryllio’.  Mae’n amheus a oeddent yn deall y gyfraith;  roedd masanchwyr a chyfreithwyr yn dadlau ynghylch ei ystyr.

Roedd William Parry yn credu y gallai hawlio dillad o’r lan.  Cyfaddefodd ei fod wedi cymryd rhai ‘trowsers’ a ‘chlytiau’ wrth guddio’r oriawr.  Dywedodd David Edwards hefyd wrth yr heddlu ‘nad oedd unrhyw ddrwg’ mewn cymryd y crys a’r siaced Guernsey.  Mae’r gred hon yn cyd-fynd ag enghreifftiau eraill a welwyd ar hyd a lled Prydain lle’r oedd pobl yn credu bod ‘deunydd o longddrylliadau’ a oedd yn golchi ar y lan yn ‘rhodd’ gan y môr (neu gan Dduw).

Roedd Parry yn gobeithio y byddai perchennog yr oriawr yn cynnig gwobr.  Roedd Roberts yn dymuno cael gwobr hefyd.  Yn wir, nid oedd yn ymddiried yn y swyddogion wrth safle y llongddrylliad, a honnodd ei fod yn bwriadu cyflwyno’r modrwyon aur a’r biliau cyfnewid i’r Derbynnydd Llongddrylliadau ym Miwmares.  Roedd ei achos yn amlygu profiadau blaenorol yr oedd pobl leol wedi eu cael gyda swyddogion gorfodi’r gyfraith ynghylch pethau achubedig.  Pan gollwyd Rothsay Castle ym 1831 ger Moelfre, ni thalwyd nifer o bobl dlawd am y pethau yr oeddent wedi eu darganfod.

Yn y ddeunawfed ganrif, roedd taliadau adfer mewn perthynas â llongddrylliadau yn aml yn cael eu talu yn y fan a’r lle.  Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y broses dalu yn rhan o fiwrocratiaeth y llywodraeth.  Yn aml, byddai ‘dryllio’ yn digwydd pan na fyddai pobl yn ymddiried yn yr awdurdodau, gan gymryd nwyddau o longddrylliadau fel taliad adfer eu hunain.

Mae tro annisgwyl yn achos David Edwards.  Pan gafodd ei arestio am ‘ddwyn’, roedd yn gweithredu dan awdurdod rheithor lleol, Parch. Stephen Roose Hughes, a oedd wedi gofyn i bobl gasglu pa eitemau bynnag y gallent eu darganfod a dod â nhw ato ef, er mwyn iddynt allu cael eu defnyddio i adnabod y dioddefwyr.

Dim ond un euogfarn a welwyd o’r tri arestiad – carcharwyd William Parry am bedwar diwrnod ar ddeg, ‘fel esiampl i bobl arall yn y gymdogaeth.’  Yna, rhoddwyd Henry Roberts ar brawf yn y brawdlys am ffeloniaeth, lle y taflwyd ei achos allan gan ei fod yn feddw.  Taflwyd achos David Edwards allan ar ei ben.

Nid oedd yr achosion yn cefnogi’r rhethreg a welwyd yn y wasg.  Wrth gwrs, efallai mai dwyn bwriadol oeddent.  Fel y tystiodd swyddog Gwylwyr y Glannau:  ‘pe bai dyn yn cydio mewn sofren trwy ddamwain ac yn ei rhoi yn ei boced, pwy fyddai’n ei feio!’  Yn wir.  Yn ystod cwêst cyntaf y crwner, nodwyd ‘bod yr adroddiad ynghylch ysbeilio gan frodorion yn hollol ddi-sail.’  Ond hefyd:  ‘ceir awgrym yma [...] bod gofyn i’r rhai sy’n cael eu talu i wylio dros eiddo llongddrylliadau gael eu “gwylio” rhyw ychydig eu hunain’!

Map