Goodwick Moor | Rhostir Wdig

A wildlife oasis hidden between the Twin Towns | Gwerddon bywyd gwyllt ynghudd rhwng y Ddwy Dref

Images

If you have an hour or so to spare, perhaps before catching the ferry or a train, there’s a peaceful nature reserve that’s perfect for a ramble close by.

Across the road from the Parrog beach lies a reedy marsh formed when the land was swamped by the sea after the last Ice Age. This wet valley makes an ideal habitat for plants and animals that like a watery environment. There’s a footpath running behind the reserve that provides an intriguing route, with splendid views towards the harbour and Goodwick.  A new boardwalk is being created (2023) that will allow nature lovers access into the reed bed itself.

Early in the morning you might see elusive foxes, badgers or otters in the undergrowth; during the day there are birds such as sedge and reed warblers, sedge buntings  and moorhens hiding among the reeds; sparrowhawks, buzzards and kestrels often circle overhead looking for small mammals, amphibians and reptiles. Butterflies, dragonflies and damselflies skim the marsh in summer.

An entrance to the footpath can be found just above the Seaview Hotel on the hill leading towards Fishguard. A path leads down to a wooden bridge over Goodwick Brook that forms the parish boundary between the twin towns, and thence to a causeway lined with willows and alders. The path rises between two massive stone gateposts to become a tree-lined lane bounded by old walled banks that host a succession of wild flowers: celandines, primroses, bluebells, foxgloves, red campion. In the wetter area marsh marigolds and yellow flag irises flourish.

Peaceful now, Goodwick Moor has a shady history as a smuggling route from the beach up to the turnpike road, allowing contrabrand to bypass the town. This area is still known as Cwm Brandy/Brandy Valley. Earlier still, in the 11th century, a major battle took place here between two Welsh warlords.

The path ends at the Drim farmhouse with its walled garden and thence there’s an easy route back to the Parrog, with views across the marsh towards Fishguard.

Os oes gennych chi awr neu ddwy i’w sbario, efallai cyn dal y fferi neu’r trên, mae gwarchodfa natur dawel gerllaw sy’n ddelfrydol os hoffech fynd am dro.

Ar draws y ffordd o draeth Parrog, gwelir cors llawn cyrs a ffurfiwyd pan orlifodd y môr ar y tir ar ôl yr Oes Iâ ddiwethaf.  Mae’r dyffryn gwlyb hwn yn ei wneud yn gynefin delfrydol i blanhigion ac anifeiliaid sy’n hoffi amgylchedd dyfrllyd.  Mae llwybr troed yn rhedeg y tu ôl i’r warchodfa, sy’n cynnig llwybr diddorol, gyda golygfeydd godidog tuag at yr harbwr ac Wdig.  Mae llwybr estyllod newydd yn cael ei greu (2023) a fydd yn caniatáu mynediad i’r gwely cyrs ei hun i’r rhai sydd wrth eu bodd gyda byd natur.

Yn gynnar yn y bore, efallai y byddwch yn gweld llwynogod, moch daear neu ddyfrgwn swil yn y prysgwydd;  yn ystod y dydd, bydd adar fel telorion yr hesg a thelorion y cyrs, breision wynebddu ac ieir dŵr yn cuddio ymhlith y cyrs;  yn aml, bydd cudyllod gleision, bwncathod a chudyllod coch yn hedfan uwchben mewn cylch gan chwilio am famaliaid bychain, amffibiaid ac ymlusgiaid.  Gwelir ieir bach yr haf, gweision y neidr a mursennod yn gwibio dros y gors yn ystod yr haf.

Mae’r fynedfa i’r llwybr troed ychydig uwch ben Gwesty Seaview ar y rhiw sy’n arwain tuag at Abergwaun.  Mae llwybr yn eich tywys i lawr i bont bren dros Nant Wdig sy’n ffurfio ffin y plwyf rhwng y ddwy dref, ac oddi yno i sarn a choed helyg a gwern ar ei hyd.  Mae’r llwybr yn codi rhwng dau bostyn gât carreg enfawr i ddod yn lôn a choed ar ei hyd a hen fanciau caerog sy’n cynnwys llu o flodau gwyllt:  llysiau’r wennol, briallu, clychau’r gog, bysedd y cŵn, blodau neidr.  Yn y darn mwy gwlyb, mae gold y gors a gellesg yn ffynnu.

Mae Rhostir Wdig yn llecyn heddychlon nawr, ond mae ganddo hanes ychydig yn fwy tywyll fel llwybr smyglo i fyny o’r traeth i’r ffordd dyrpeg, gan ganiatáu i gontraband osgoi’r dref.  Gelwir yr ardal hon yn Gwm Brandi o hyd.  Yn gynharach fyth, yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg, roedd brwydr fawr wedi digwydd yma rhwng dau arglwydd rhyfel Cymreig.

Mae’r llwybr yn gorffen wrth ffermdy Drim gyda’i ardd â wal o’i chwmpas, ac o’r fan honno, ceir llwybr hawdd yn ôl i’r Parrog, gyda golygfeydd ar draws y gors tuag at Abergwaun.

Map

Situated near the A40 trunk road between Goodwick and Fishguard. Access is along a track from A40 (SM949375) beside the Seaview Hotel. Entrance via a footbridge. Boardwalk through reserve; not accessible for wheelchairs.