Cod Eco
Ein Cod Eco
[Saesneg]
Atal, Lleihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu Gwastraf:
Byddwn yn atal, yn lleihau, yn atgyweirio, yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu er mwyn cyfyngu ar wastraff lle bynnag y bo modd. Rheolir gwastraff a gynhyrchir yn unol ag egwyddorion yr hierarchaeth wastraff. Dylid rhoi blaenoriaeth i ailddefnyddio deunydd yn hytrach na chael eitemau newydd.
- Prynu eitemau gydag ychydig neu ddim pecynnu.
- Ailgylchu’r holl ddeunyddiau a ddefnyddir, yn cynnwys papur, metel, gwydr a phlastig.
- Annog pobl i ailddefnyddio cwpanau etc a all gael eu hailddefnyddio.
Trafnidiaeth
Byddwn yn annog dulliau teithio mwy ecogyfeillgar. Pan fydd gwaith trefniadol y prosiect yn galw am deithio, byddwn yn sicrhau ein bod yn defnyddio’r dull mwyaf amgylcheddol gynaliadwy a fydd ar gael, a bydd y gwahanol unedau yn cydweithredu i leihau’r allyriadau carbon a gynhyrchir yn sgil gweithgarwch y Brifysgol.
- Lleihau’r angen i deithio lle y bo hynny’n bosibl drwy ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
- Defnyddio, hyrwyddo a hybu trafnidiaeth gyhoeddus lle y bo modd.
- Cynnal cynadleddau fideo a chynadleddau ffôn.
Dŵr
Byddwn yn arbed dŵr lle y bo modd. ·
Diffodd tapiau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Annog pobl i ddefnyddio poteli dŵr a all gael eu hailddefnyddio mewn digwyddiadau.
Ynni
Byddwn yn cwtogi ar ein defnydd o ynni ac yn gwella effeithlonrwydd adnoddau a’u defnydd o ynni. Telir y sylw dyledus i faterion amgylcheddol cylch bywyd a pherfformiad ynni wrth gaffael, dylunio, adnewyddu, lleoli a defnyddio adeiladau.
- Diffodd yr holl oleuadau a gwres pan nad oes mo’u hangen.
- Defnyddio rheolyddion gwresogi er mwyn ymateb yn sydyn i wahanol anghenion o ddydd i ddydd.
- Gosod deunydd inswleiddio effeithiol, a chau pob drws a ffenestr yn y gaeaf.
- Diffodd y gwres dros benwythnosau ac yn ystod cyfnodau o wyliau
Codi Ymwybyddiaeth
Byddwn yn hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol ymysg defnyddwyr safleoedd y prosiect.
- Codi arwyddion a phosteri amlwg o gwmpas adeiladau’r sefydliad.
- Hybu eco-dwristiaeth yn ein cyfryngau cymdeithasol a’n gweithgareddau ar-lein.
- Hybu mwy o werthfawrogiad o'r amgylchedd naturiol yn ein negeseuon yn y cyfryngau cymdeithasol, lle y bo modd.
- Hybu prosiectau twristiaeth gynaliadwy'r UE yn ein cyfryngau cymdeithasol.
- Hybu bioamrywiaeth ar-lein a thrwy’n cyfryngau cymdeithasol
Prynu
Byddwn yn sicrhau bod digon o bwyslais yn cael ei roi ar feini prawf amgylcheddol wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau.
- Prynu cynnyrch sydd wedi ei ailgylchu neu sy’n cael ei ailddefnyddio pan fo hynny’n bosibl.
- Prynu eitemau gydag ychydig neu ddim pecynnu.
Bioamrywiaeth
Yr holl seilwaith/gosodiadau i fod yn gynnil a pheidio â chael effaith ar fioamrywiaeth
Delwedd: Kayaking in the Dublin Bay Biosphere