St Patrick in Ringsend | Sant Padrig yn Ringsend
Media
Images
Text
The close association of St Patrick with Ireland extends back to Patrick’s own writings, probably dating to the fifth century. In these letters he states that he came from a Christian family in Britain. The location of his upbringing in Britain has remained unclear, although plenty of stories associate him with different parts of Wales.
Ancient and modern churches all over Ireland are dedicated to Patrick, including the modern church in Rosslare Harbour and a larger church in Ringsend, which was built in the 1850s. Images of Patrick can be found at both churches in stained glass. The large window of Patrick baptising a kneeling royal figure at Rosslare is by George Walsh, and an earlier window at Ringsend was made by the Dublin studio of Joshua Clarke & Sons in 1923.
The work of Clarke & Sons’ studio was under the direction of Harry Clarke after his father’s death in 1921, and although the output of the studio was shaped by his own style it was designed and executed by his team of designers and glass painters. The window at Ringsend doesn’t have the intensity of the windows that Harry Clarke designed and mostly executed himself, but it is still a striking composition. Patrick is shown preaching with a crowned figure kneeling below, perhaps the penitent king Lóegaire after Patrick’s victory over the druids in the contest at Tara, a story told in Muirchú’s seventh-century Life of Patrick.
In addition to a sculpted figure of Patrick in the church, Patrick is also included in the east window by another Dublin firm, that of Earley Studios. The colouration of their window is even more strident than the window by Clarke’s, with glowing reds, pinks, and blues. The skirts of the Virgin Mary are held at one side by Patrick and on the other by Brigid in the lower corners of the window. A further reference to the confrontation with the druids and Lóegaire is shown above the main figure of Patrick, as Patrick lights the Paschal fire with his monks. The colours of the flame is expertly worked in the window using coloured streaky glass.
Countless images of Patrick by dozens of artists and studios can be found in Dublin churches and across the country, and many can also be found in Wales, particularly in Catholic churches. An image of Patrick in stained glass survives from the nineteenth-century church in Holyhead that was replaced by the current church, dedicated to the Church of St Mary Help of Christians, which now boasts a magnificent set of modern windows made in 2003–4.
Among the medieval dedications of churches to Patrick in Wales is the church at Llanbadrig on Anglesey, the northernmost church in Wales. To support the supposition that the church was founded by Patrick himself, a story developed to suggest that St Patrick had been shipwrecked nearby on Ynys Badrig (Patrick’s Island, also known as Middle Mouse). Having made it to the shore he then took shelter in a cave in the cliffs, where he discovered fresh water, and then founded a church. An image of Patrick as a young bishop can be found in the east window alongside St David and St Deiniol at the church nearby at Cemaes, which is also dedicated to Patrick.
Mae cysylltiad agos Sant Padrig ag Iwerddon yn ymestyn yn ôl i ysgrifau Padrig ei hun, yn dyddio yn ôl i'r bumed ganrif yn ôl pob tebyg. Yn y llythyrau hyn mae'n dweud ei fod yn dod o deulu Cristnogol ym Mhrydain. Mae lleoliad ei fagwraeth ym Mhrydain yn dal yn aneglur, er bod digon o straeon yn ei gysylltu â gwahanol rannau o Gymru.
Mae eglwysi hynafol a modern ledled Iwerddon wedi'u cysegru i Padrig, gan gynnwys yr eglwys fodern yn Harbwr Rosslare ac eglwys fwy yn Ringsend, a adeiladwyd yn y 1850au. Gellir gweld delweddau o Padrig yn y ddwy eglwys mewn gwydr lliw. Mae'r ffenestr fawr o Padrig yn bedyddio ffigwr brenhinol sy’n penlinio yn Rosslare wedi’i chreu gan George Walsh, a chafodd ffenestr gynharach yn Ringsend ei gwneud gan stiwdio Joshua Clarke & Sons yn Nulyn ym 1923.
Daeth gwaith stiwdio Clarke & Sons o dan gyfarwyddyd Harry Clarke ar ôl marwolaeth ei dad ym 1921, ac er bod allbwn y stiwdio wedi'i lywio gan ei arddull ef ei hun cafodd y deunyddiau eu cynllunio a'u creu gan ei dîm o ddylunwyr ac arlunwyr gwydr. Does gan y ffenestr yn Ringsend ddim o ddwysedd y ffenestri a gynlluniwyd gan Harry Clarke a'u creu ganddo ef ei hun yn bennaf, ond mae'n dal yn gyfansoddiad trawiadol. Dangosir Padrig yn pregethu gyda ffigwr coronog yn penlinio islaw, efallai y brenin edifeiriol Lóegaire ar ôl buddugoliaeth Padrig dros y derwyddon yn yr ornest yn Tara, sef stori a adroddir ym Muchedd Padrig o'r seithfed ganrif gan Muirchú.
Yn ogystal â ffigwr cerfluniedig o Padrig yn yr eglwys, mae Padrig hefyd wedi'i gynnwys yn ffenestr y dwyrain gan gwmni arall o Ddulyn, sef Earley Studios. Mae lliw eu ffenestr nhw hyd yn oed yn fwy trawiadol na'r ffenestr gan Clarke's, gyda choch, pinc a glas disglair. Mae sgertiau’r Forwyn Fair yn cael eu dal ar un ochr gan Padrig ac ar yr ochr arall gan Ffraid yng nghorneli isaf y ffenestr. Ceir cyfeiriad arall at y gwrthdaro â'r derwyddon a Lóegaire uwchben prif ffigur Padrig, lle mae Padrig yn cynnau tân y Pasg gyda'i fynachod. Mae lliwiau'r fflam wedi’u gweithio'n arbenigol yn y ffenestr drwy ddefnyddio gwydr ac ynddo strimynnau lliw.
Mae delweddau di-rif o Padrig gan ddwsinau o artistiaid a stiwdios i’w gweld yn eglwysi Dulyn ac ar draws y wlad, ac mae llawer i'w gweld yng Nghymru hefyd, yn enwedig mewn eglwysi Catholig. Mae delwedd o Padrig mewn gwydr lliw wedi goroesi o'r eglwys o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghaergybi a ddisodlwyd gan yr eglwys bresennol, sydd wedi'i chysegru i’r Santes Fair Cymorth Cristnogion, sydd bellach yn cynnwys set wych o ffenestri modern a wnaed yn 2003–4.
Mae’r cysegriadau canoloesol i Padrig yng Nghymru yn cynnwys Llanbadrig ar Ynys Môn, yr eglwys fwyaf gogleddol yng Nghymru. I ategu’r dybiaeth bod yr eglwys wedi'i sefydlu gan Padrig ei hun, datblygodd stori i awgrymu bod Sant Padrig wedi cael ei longddryllio gerllaw ar Ynys Badrig. Wedi cyrraedd y lan cysgododd mewn ogof yn y clogwyni, lle darganfu ddŵr ffres, ac yna sefydlu eglwys. Mae delwedd o Padrig fel esgob ifanc i’w gweld yn y ffenestr ddwyreiniol ochr yn ochr â Dewi Sant a Deiniol Sant yn yr eglwys gerllaw yng Nghemaes, sydd hefyd wedi'i chysegru i Padrig.